Mumbles

Cyflwynwch eich cais: GWR yn lansio’r Gronfa Gwella Cwsmeriaid a Chymunedau ddiweddaraf yng Nghymru

Gall prosiectau sy’n gysylltiedig â’r rheilffordd ac sy’n mynd i’r afael ag angen cymdeithasol bellach ymgeisio am gyllid gan Gronfa Gwella Cwsmeriaid a Chymunedau GWR.

Yn dilyn llwyddiant cynllun y llynedd, pan roddodd GWR cymorth ariannol gwerth mwy na £900,000 i 52 o brosiectau, mae GWR yn gwahodd ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau cwsmeriaid a chymunedau.

Fel rhan o’i Gontract Rheilffyrdd Cenedlaethol gyda’r Adran Drafnidiaeth, mae’r cwmni trên wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion, colegau, cynghorau, cymunedau a sefydliadau nid-er-elw eraill trwy gynorthwyo nifer o fentrau.

Defnyddiodd prosiect Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls £7,450 i osod copïau o arwyddion gorsaf ar 11 o fannau ar hyd y llwybr ac ar fannau allweddol ar ei hyd, ynghyd â byrddau gwybodaeth, posteri a murluniau.

Mae defnyddio codau QR wedi helpu i ddod â’r llwybr yn fyw, gan roi mynediad drwy ffôn clyfar i hen fideos, clipiau sain a gwybodaeth hanesyddol.

Hefyd, hwylusodd cyllid GWR y gwaith o ddatblygu ap symudol Realiti Estynedig, gan gynnwys y gallu i “gerdded o amgylch” trên Rheilffordd y Mwmbwls mewn 3D.

Mae GWR nawr yn gwahodd ceisiadau ar gyfer 2024-25. Rhaid i gynlluniau ddangos cysylltiad â’r rheilffordd a mynd i’r afael ag angen cymdeithasol.

Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy borth ar-lein ar wefan GWR yma, lle ceir nodiadau arweiniol ar gyflwyno cais llwyddiannus. Rhaid cyflwyno’r holl gynigion erbyn 2359 ddydd Llun 25 Mawrth.

Dywedodd Rich Middleton, Rheolwr Twf GWR ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr:

“Mae’r Gronfa Gwella Cwsmeriaid a Chymunedau’n gyfle gwych inni fuddsoddi mewn prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cwsmeriaid a’n cymunedau ar lefel lleol. Rydym yn awyddus iawn i bwysleisio bod angen i’r holl geisiadau fod yn gysylltiedig â’r rheilffordd ac yn mynd i’r afael ag angen cymdeithasol.

“Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cynlluniau sydd o fudd i gwsmeriaid, yn cynyddu nifer y teithiau ar y rheilffordd, yn annog lleihad carbon, yn cysylltu cymunedau, pobl a lleoedd, yn cefnogi twf economaidd, yn hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth, a rhaglenni addysgol sy’n cynorthwyo gyrfaoedd ar y rheilffyrdd neu’n codi ymwybyddiaeth a chynyddu profiadau o drafnidiaeth gyhoeddus a diogelwch ar y rheilffyrdd.

“Bydd cais da yn dangos lefel uchel o ymgysylltiad a chymorth cymunedol, a bydd gan y cynnig fuddion a fydd yn parhau ar ôl i’r prosiect ddod i ben.”

Gall y ceisiadau amrywio o ran eu maint, ond mae GWR yn chwilio’n arbennig am gynigion bach a chanolradd er mwyn helpu’r nifer fwyaf posibl o gymunedau.

Contact Information

John Carter

Media and Communications Manager

Great Western Railway

0845 410 4444

John.Carter1@gwr.com